subglobal1 link | subglobal1 link | subglobal1 link | subglobal1 link | subglobal1 link | subglobal1 link | subglobal1 link
subglobal2 link | subglobal2 link | subglobal2 link | subglobal2 link | subglobal2 link | subglobal2 link | subglobal2 link
subglobal3 link | subglobal3 link | subglobal3 link | subglobal3 link | subglobal3 link | subglobal3 link | subglobal3 link
subglobal4 link | subglobal4 link | subglobal4 link | subglobal4 link | subglobal4 link | subglobal4 link | subglobal4 link
subglobal5 link | subglobal5 link | subglobal5 link | subglobal5 link | subglobal5 link | subglobal5 link | subglobal5 link
subglobal6 link | subglobal6 link | subglobal6 link | subglobal6 link | subglobal6 link | subglobal6 link | subglobal6 link
subglobal7 link | subglobal7 link | subglobal7 link | subglobal7 link | subglobal7 link | subglobal7 link | subglobal7 link
subglobal8 link | subglobal8 link | subglobal8 link | subglobal8 link | subglobal8 link | subglobal8 link | subglobal8 link

Blodwen

Yr opera Gymraeg gyntaf

Cerddoriaeth: Joseph Parry. Libretto: Mynyddog

Penodwyd Parry yn Athro Cerddoriaeth Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yn 1873 – yn fuan ar ôl i'r sefydliad agor ei ddrysau am y tro cyntaf. Yr oedd Parry wedi gweld nifer o operâu yn America ac yn Llundain, gan ddechrau gyda Fidelio Beethoven yn Philadelphia yn 1863, gan achosi iddo benderfynu y byddai'n rhaid iddo gyfansoddi opera ar gyfer pobl Cymru, yn Gymraeg, yn seiliedig ar ddigwyddiadau hanesyddol. Gofynnodd i'w gyfaill, y bardd a'r llenor, Mynyddog (sef Richard Davies o Lanbrynmair) i lunio libretto a chanlyniad eu cywaith oedd yr opera Blodwen , a orffennwyd ym mis Chwefror 1877.

Digwyddodd y perfformiad cyhoeddus cyntaf tua blwyddyn a chwarter yn ddiweddarach ar 21 Mai 1878 sef penblwydd Parry yn 37 oed. Myfyrwyr Parry oedd mwyafrif y cast, a'r cyfeilyddion oedd meibion y cyfansoddwr: Joseph Haydn Parry, 13 oed wrth y piano a'i frawd 12 oed, David Mendelssohn Parry, wrth yr harmoniwm. Lleoliad y perfformiad oedd y Neuadd Ddirwestol ar Rodfa'r Gogledd yn Aberystwyth - lleoliad nifer o gyngherddau yn yr 1870au ond a chwalwyd ers talwm erbyn hyn.

Ychydig o bobl yn Aberystwyth neu hyd yn oed yng Nghymru a fyddai wedi gweld perfformiad o opera neu'n gwybod beth i'w ddisgwyl. Yn bellach, roedd yr eglwys anghydffurfiol – yn enwedig capeli Cymru – yn gwrthwynebu'n gryf perfformiadau llwyfan gan ystyried y theater fel y cyfwerth moesol i dafarn neu buteindy. (Dros y ugain mlynedd nesaf, cyfrannodd Blodwen yn fawr at newid yr agweddau hyn.) Er hynny, roedd y neuadd dan ei sang a'r gynulleidfa'n frwd. Yn sgil hynny, teimlodd Parry reidrwydd i annerch y gynulleidfa cyn i'r perfformiad ddechrau, gan esbonio beth oedd opera a chan bwysleisio na fyddai'r cantorion, er mewn gwisgoedd, yn ‘actio'.

Er gwaethaf plot anghredadwy ac hanesyddol wallus, cerddoriaeth anwreiddiol ac eclectig, perfformwyr amatur a llwyfannu statig, roedd y perfformiad yn llwyddiant ysgubol ac erbyn diwedd y 19fed ganrif, bu dros 500 o berfformiadau yng Nghymru ynghyd â nifer sylweddol yn y rhannau hynny o'r Unol Daleithiau lle y bu mewnfudo mawr o Gymru. Er y bu trai ar boblogrwydd Blodwen yn ystod yr 20fed ganrif, clywir nifer o rannau o'r opera mewn eisteddfodau a chyngherddau yng Nghymru o hyd.

Yn 1978, penderfynodd Gwyl Gerdd Menai (a ddaeth i ben, gwaetha'r modd) i ddathlu canmlwyddiant perfformiad cyntaf Blodwen gyda pherfformiad cyngerdd o'r opera gyda cherddorfa lawn. Darlledwyd y cynhyrchiad yn fyw ar Radio Cymru a rhyddhawyd crynoddisg gan Sain sydd ar gael trwy'r cwmni ynghyd â siopau ar-lein eraill.

Yr oedd cyfarwyddwr yr wyl ar y pryd, John Hywel o Adran Gerdd Prifysgol Bangor, wedi gofyn i Dulais Rhys – cyn-fyfyriwr iddo a oedd yn gweithio ar ei PhD ar Joseph Parry – i ymchwilio i ba mor ymarferol fyddai defnyddio sgôr cerddorfa gwreiddiol y cyfansoddwr ar gyfer y perfformiad hwn. Mae'r sgôr yn bodoli fel llawysgrif yn unig a'i gadw – fel bron y cyfan o lawysgrifau Parry – yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth. Gwaetha'r modd, am fod cerddorfaeth Parry mor ddiffygiol - yn bennaf oherwydd yr adnoddau offerynnol cyfyng a oedd ar gael ar gyfer cynhyrchiadau yn yr 19fed ganrif - aeth Dulais Rhys ati i greu fersiwn cerddorfa newydd, yn seiliedig ar sgôr Parry, a dyma'r fersiwn a ddefnyddiwyd ar gyfer perfformiad y canmlwyddiant yn yr wyl.

Ar hyn o bryd (2015), mae Dulais Rhys yn gweithio ar fersiwn cerddorfa siambr o gyfeiliant Blodwen – golygiad newydd a fydd yn cynnwys cyfwerth ffonetig ochr yn ochr â'r libretto Cymraeg gwreiddiol. Mae copi o'r sgôr lleisiol a gyhoeddwyd i'w weld ar wefan imslp.org. Mae'r wefan hon hefyd yn cynnwys enghreiffitiau eraill o gerddoriaeth Parry.

Er gwaethaf gwendidau'r opera, mae Blodwen Joseph Parry yn cynnwys cerddoriaeth o safon, hyfrydwch ac effeithiolrwydd dramatig. Erys yr opera yn garreg filltir yn hanes cerddoriaeth Cymru a'r cyfansoddwr yw cerddor enwocaf Cymru'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Atgynhyrchir adolygiad cyfoes o'r perfformiad cyntaf o Blodwen a ymddangosodd ym mhapur newyddion yr Aberystwyth Observer yn adran Erthyglau'r wefan JosephParry.org.

Am fwy o wybodaeth ar fywyd a gwaith Joseph Parry, ewch i JosephParry.org.

 

©2013-2023 Dulais Rhys Piano Education and Music Services
Contact Details | LinkedIn Profile | Facebook Page